Prifysgol Morgannwg

Dysgu wrth Fyw

Y Gymraeg ym Morgannwg

Gold star standing out from the rest

Y Gymraeg ym Morgannwg

Rhoddir mwy o bwyslais gan y Cynulliad ar ddatblygu Cymru yn wlad ddwyieithog ac felly y mae mwy a mwy o gyrff yn y sector gyhoeddus a phreifat yn troi eu golygon at apwyntio siaradwyr Cymraeg a denu cwsmeriaid a chleientiaid Cymraeg. O ganlyniad, y mae’n hollbwysig i chi achub ar y cyfleoedd sydd ar gael yn y Brifysgol hon i barhau gyda’r Gymraeg…

Cyfle i fyfyrwyr Nyrsio

Darperir cyfle arbennig i fyfyrwyr sydd yn dilyn un o gyrsiau Nyrsio’r brifysgol i ddilyn modiwl Cyfathrebu yn Gymraeg. Nod y modiwl unigryw yma yw darparu’r cyfle i fyfyrwyr sy’n medru’r Gymraeg i ddatblygu a gwella eu sgiliau cyfathrebu Cymraeg. Bydd modd i chi astudio’r modiwl newydd yma sydd wedi ei deilwra ar gyfer pobl sy’n gweithio o fewn y byd iechyd o 2010 ymlaen. I wybod mwy, ebostiwch Non ar yr ebost yma




Fel rhan o’ch Hastudiaethau

Yr hawl i gyflwyno asesiadau a defnyddio’r Gymraeg ar lafar gyda thiwtor

O Ddydd i Ddydd


Bydd yn barod i ddefnyddio’r Gymraeg gyda staff cymwys ar hyd a lled y campws.

Manteision Dwyieithrwydd

Ewch i’r dudalen hon am wybodaeth gan gyflogwyr a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Modiwl y Gymraeg yn y Gyfraith

Darperir modiwl newydd ac arbennig i fyfyrwyr y Gyfraith sef ‘Y Gymraeg yn y Gyfraith’. Gall myfyrwyr yn yr ail flwyddyn ddilyn y modiwl yma sy’n cael ei ddysgu ar y cyd rhwng y Brifysgol a Phrifysgol Bangor. Darllenwch broffil un myfyrwraig nath fanteisio ar y cyfle i ddilyn y modiwl yn 2010 a dod i wybod mwy am y ddarpariaeth yma