Os na fyddet ti’n astudio dy gwrs cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg, yn dilyn llwybr astudio dwyieithog neu’n gwneud elfen o’th waith drwy gyfrwng y Gymraeg yna darperir cyfleoedd eraill i ti er mwyn rhoi’r cyfle i ti wella a pharhau i ddefnyddio dy sgiliau Cymraeg ym Mhrifysgol Morgannwg.
Anogir myfyrwyr sydd â diddordeb i gyflwyno eu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg i siarad â’u tiwtor personol neu’r darlithydd i drafod yr opsiynau. Yn sgil y drafodaeth hon bydd y Brifysgol yn chwilio am ddarlithydd perthnasol a fydd yn medru marcio ac asesu dy waith drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n trefnu cyfieithu dy waith i’r Saesneg.
Ein nod yw rhoi’r cyfle i ti fanteisio ar y cyfle i gyflwyno rhai prosiectau neu draethodau yn y Gymraeg lle bo hyn yn bosib.
I gael cyngor pellach cysyllta â ni neu ffeindia dy bwynt cyswllt cyfrwng Cymraeg o fewn dy Cyfadran.
Bydd dy Gyfadran yn apwyntio Tiwtor Personol i ti ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. O ganlyniad, lle bo’n bosib gellir gwneud cais i gael tiwtor personol sy’n medru’r Gymraeg.
Os na fydd gen ti diwtor personol sy’n medru’r Gymraeg yna y mae modd i ti gysylltu â Gareth Powell, tiwtor sydd ar gael i ddarparu cymorth a chyngor bugeiliol i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn ól y galw.