Ym Morgannwg darperir cefnogaeth i fyfyrwyr o bob cefndir ieithyddol a lefel gramadegol.
Dyma rai o’r prif resymau dros ystyried a dewis astudio rhan o dy gwrs drwy gyfrwng y Gymraeg:
Wrth ddewis gwneud rhai modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg bydd modd i ti gymryd rhan mewn darlithoedd a gwaith ymarferol gyda grwpiau mawr a bach. Cei gyfle i gymdeithasu a gweithio gyda myfyrwyr sy’n dod o bob rhan o’r byd fel rhan o’r prif ddarlithoedd cyfrwng Saesneg ac yna gweithio’n agos gyda chriw llai wrth wneud pethau penodol yn y Gymraeg.
Mae nifer o ysgoloriaethau hael ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis astudio’ ddwyieithog. Gelli di dderbyn hyd at £3000 am astudio rhan o dy gwrs trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Morgannwg. Manteisia ar y cyfle gwych hwn!
Yn amlwg rwyt ti’n mynd i’r brifysgol er mwyn cael datblygu dy sgiliau gymaint ag sy’n bosib a chael llwyth o brofiadau i roi ar dy CV. O ganlyniad felly, bydd meistroli dy sgiliau mewn dwy iaith yn rhoi’r cyfle i ti gynnig mwy i’r gweithleoedd yn y dyfodol.
Mae’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael ar rai o’n cyrsiau wedi’u hanelu i roi’r cyfle i ti ddatblygu’n arbenigwyr dwyieithog o fewn y meysydd dan sylw.
Oherwydd datblygiadau cenedlaethol yn y nifer o gyfleoedd sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg y mae’r adnoddau cyfrwng Cymraeg wedi ehangu hefyd. Yn wir, erbyn hyn, darperir adnoddau ar bapur ac ar-lein ac sy’n rhoi cymorth addysgol i ti y tu hwnt i’r dosbarth. Yn wir, ar Y Porth, (sef gwefan sy’n cynnwys adnoddau ar gyfer nifer helaeth o gyrsiau a addysgir yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg) bydd modd i ti lawrlwytho deunydd addysgu, sgwrsio gyda myfyrwyr eraill am dy waith a rhannu gwybodaeth a chyngor.
Mae myfyrwyr Morgannwg wedi sefydlu Cymdeithas Gymraeg er mwyn rhoi cyfle i fyfyrwyr Cymraeg gymdeithasu gyda’i gilydd. Gelli di ymuno yn yr hwyl trwy ddod yn aelod o’r Gymdeithas yn ystod Ffair y Glas!
Wrth astudio gradd drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg rwyt ti’n cael dy addysgu gan arbenigwyr dy faes. Yn wir, ar yr ochr Gymraeg, weithiau, mi fyddi di’n elwa hyd yn oed yn fwy, gan mai nhw yw prif academyddion ac arbenigwr y pwnc y byddi dii’n ei astudio.
Ar ben hyn mae nifer fawr o’r staff ym Morgannwg yn dal i weithio o fewn eu meysydd rhwng darlithio, ac, o ganlyniad, maen nhw’n deall y sector, yn ymwybodol o’r newidiadau a’r datblygiadau o fewn y maes ac yn medru rhannu eu gwybodaeth â’u myfyrwyr.