£500 y flwyddyn (neu £1500 dros dair blynedd) yw gwerth Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio 40 credyd y flwyddyn o’r cyrsiau gradd Busnes canlynol trwy gyfrwng y Gymraeg:
Am fwy o wybodaeth ac i gwblhau’r ffurflen gais, ewch i wefan Mantais.
Dyddiad cau: 4 Mai 2012
Mae Prifysgol Morgannwg yn cynnig pump gwobr gwerth £1,000 i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio o leiaf un modiwl y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg.
Er mwyn bod yn gymwys, dylai ymgeiswyr anfon portffolio o waith (enghreifftiau o’r math o waith isod) at sylw Rebecca Jones, Swyddog Cyswllt ag Ysgolion a Cholegau, D136, Adran Farchnata, Prifysgol Morgannwg, Trefforest CF37 1DL, erbyn dydd Gwener Chwefror 17 Chwefror 2012.
Dylai’r portffolio fod yn sampl o oddeutu 3,000 gair o waith ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gall y portffolio gynnwys amrywiaeth o eitemau, er enghraifft:
Dewisir pump enillydd addas yn dilyn ymgynghori gyda phanel o feirniaid. Gofynnwn i ymgeiswyr ddarparu dau gopi caled o’r gwaith. Rhaid hefyd darparu enw a manylion cyswllt, ac enw’r cwrs y bwriedir ei ddilyn yn y Brifysgol gyda’r gwaith, ond dylid rhoi’r manylion hyn mewn amlen ychwanegol/ar wahân er mwyn caniatáu i aelodau’r panel ddyfarnu ac asesu’r portffolio heb ragfarn.
Mae dyddiad cau’r gystadleuaeth wedi bod ar gyfer dod i Brifysgol ym Medi 2012.