Lleolir Prifysgol Morgannwg yn Ne Cymru. Mae ganddi gampysau yng Nghaerdydd, prif ddinas Cymru ac ym Mhontypridd, tref sy’n 12 milltir i’r gogledd o Gaerdydd.
Mae gan y Brifysgol dri champws. Mae campysau Trefforest a Glyn-taf wedi’u lleoli yn agos i Bontypridd a gellir cerdded o un campws i’r llall mewn llai na deng munud. Mae campws ATRiuM wedi’i leoli yng nghalon dinas fywiog a chyffrous Caerdydd ac yn daith o 20 munud ar y trên o’r brif gampws yn Nhrefforest.
Bydd y pwnc y byddi di’n ei astudio yn effeithio ar ble y byddi di’n astudio.. Yn wahanol i brifysgolion eraill nid ydym yn disgwyl i ti deithio o un campws i’r llall -bydd dy ddarlithoedd, dy diwtorialau a’th addysgu i gyd yn digwydd yn yr un lle.
Campws Trefforest yw cartref y Gyfadran Busnes a Chymdeithas a’r Gyfadran Uwch-Dechnoleg.
Dyma’r campws mwyaf o’r tri sydd wedi’i leoli yng nghymoedd prydferth de Cymru.. Mae’n gampws modern sydd yn adlewyrchu cyfoeth hanesyddol yr ardal arbennig yma. Gydag awyrgylch gyfeillgar a hamddenol, dyma’r lle perffaith i astudio a chymdeithasu. Mae ganddo adeilad newydd Undeb y Myfyrwyr, neuaddau preswyl ac mae’n agos iawn at siopau a bariau lleol ym Mhontypridd. Os wyt ti’n berson sy’n hoff o fentro i’r awyr iach yna gellir dianc i’r parciau, mynyddoedd a’r môr sy’n agos i’r Brifysgol.
Os byddi di’n dymuno astudio yn y Gyfadran Iechyd, Chwaraeon a Gwyddoniaeth yna mi fyddi di’n astudio ar gampws Glyn-taf ym Mhontypridd.
Ar y campws hwn gelli di ymweld â siop Undeb y Myfyrwyr a’r llefydd bwyta yno. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys tŷ lleoliadau trosedd, labordai modern ac Canolfan Efelychiad Glinigol arbenigol i fyfyrwyr iechyd a gwyddoniaeth.
Mae Ysgol y Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd wedi’i lleoli yng nghanol dinas Caerdydd yn ATRiuM. Dyma adeilad gwerth miliynau o bunnoedd ac sydd yn cynnwys adnoddau modern ar gyfer y diwydiannau dan sylw, gan gynnwys stiwdios, ystafelloedd tywyll ac ystafelloedd ymarfer. Gall myfyrwyr y campws ymlacio a mwynhau yng nghaffi’r ATRiuM ac y mae’n lle gwych i gael rhywbeth i’w fwyta rhwng sesiynau ymarfer a pherfformio.
Caerdydd yw prif ddinas Cymru ac yno fe ddoi di o hyd i ystod eang o fariau, siopau, bwytai a mannau sy’n cynnig profiadau diwylliannol gwych. Prif ganolbwynt y ddinas yw Castell Caerdydd, adeilad nodedig sydd wedi’i amgylchynu gan barciau gwyrdd hyfryd, Stadiwm y Mileniwm, Amgueddfa Caerdydd a theatrau a mannau adnabyddus ac ysbrydoledig eraill.
Mae’r Brifysgol yn buddsoddi dros £130miliwn yn ei hadnoddau ym mhob un o’r campysau er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r adnoddau a’r cyfleoedd gorau i’n myfyrwyr. Mae’r rhaglen gyffrous ac arloesol hon yn adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i ddatblygu’n gyson a gweld newid nodweddiadol i’w champysau.